Ymwelwyr Y Dydd: Rhian & Ffion

4 August 2014

Ein hymwelwyr ar drydydd dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yw Rhian Powell a Ffion Wathan o Abertawe.

Mae’r ddwy yn gwirfoddoli ym mhabell gwyddoniaeth ar y maes ‘Steddfod am dri diwrnod ers Dydd Sadwrn hyd at heddiw. Mae’r ddwy yn deunaw mlwydd oed, ac yn mynychu Ysgol Gyfun Gwyr. Cred y merched am fod yr Eisteddfod yn ddydd da, llawn hwyl i’r teulu i gyd. Dyma brofiad gyntaf Rhian Powell ar faes Eisteddfod Genedlaethol, lle bo Ffion wedi bod yn ymweld ag Eisteddfodau Cenedlaethol yn flynyddol.

Mae hi wedi bod yn brofiad ardderchog ond roedd teithio nôl i faes barcio o’r maes yn wael. Parcion ni ar bwys Tata Steel yng nghanol Llanelli ac mi gymerodd hi tuag awr i fws cyrraedd ar Ddydd Sadwrn.’ – Rhian

Rwy’n synnu bod yr haul yn tywynnu ar y maes gan fod hi’n fel arfer bwrw glaw trwy gydol yr ŵyl!’ – Ffion

Gofynnais iddynt a oedd modd iddynt gael pŵer hudol, pa un fyddent yn ei bigo?.. Atebodd Rhian yn syth ‘da’r pŵer o allu hedfan – ‘Bydd e’n cŵl a chyfleus’. Cymerodd Ffion ei hamser, ac atebodd gyda ‘Psychokinesis’ – yr allu i symud eitemau a’ch meddwl.. ‘allech chi fod mor ddiog gyda’r pŵer hynny!’

Dywed y ddwy ferch hefyd am ba mor gyfeillgar yw bawb ar y maes a pha mor gyfforddus maen nhw’n teimlo yma.

..Tybed pwy fydd ein Hymwelydd y Dydd y fori?

IMG_0095

Share this article

Comment on this article