Yr Athro Sioned Davies yn trafod hanes y gân ‘Sosban Fach’

7 August 2014

Amser cinio heddiw ar faes yr Eisteddfod, roedd Yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd yn rhoi darlith ar hanes y gân ‘Sosban Fach.’ Mae’n gân adnabyddus i nifer yng Nghymru, a bron yn anthem i bobl Llanelli, ond mae cymaint o ddirgelwch a chwestiynau yn amgylchynu’r gân. Nid oes yna unrhyw sicrwydd ynghylch pwy yw awdur y geiriau nac ychwaith cyfansoddwr y dôn. Roedd Owen Rees yn un yn 1889 a geisiodd hawlio iddo gyfansoddi y pennill gyntaf, ond un mewn nifer yw ef o rai sydd wedi ceisio hawlio’r gân ar hyd y blynyddoedd. Cred eraill mai clwstwr o emynau Cymraeg sydd wedi creu tôn y gân, ond unwaith eto, theori yn unig yw hyn.

Cafwyd trafodaeth ddiddorol hefyd ar y geiriau gwahanol sydd wedi eu defnyddio ar hyd y blynyddoedd. ‘Mae bys Mary Ann wedi brifo‘  yr ydym ni’n canu heddiw, ond mae cofnod o eiriau, megis ‘chwyddo,’ ‘briwio’ a ‘gwella’ yn cael eu canu. Mae cofnod hefyd o air gogleddol wedi cael ei ganu cyn hyn hefyd, ‘ar gath wedi cripio Johnny bach.’ A yw’r gogleddwyr felly yn gallu hawlio perchnogaeth o’r gân hefyd?

Roedd yn drafodaeth wirioneddol ddiddorol, yn enwedig gan ein bod ni yr wythnos yma yn Nhref y Sosban ac hefyd am ein bod wedi bod yn creu fidio o bobl ar y maes yn canu’r gân, gan gynnwys Y Prif Weinidog Carwyn Jones! Bydd y fidio yn cael ei lwytho i’r wefan yn fuan – felly cadwch eich llygaid ar agor!

Article tags

Share this article

Comment on this article