Zombies ar faes yr Eisteddfod!

9 August 2014

Am hanner dydd heddiw, roedd creaduriaid amheus eu golwg yn cerdded y maes. A cyn ichi holi, na, nid aelodau’r orsedd oeddent! Roedd criw o zombies mewn dillad carpiog yn crwydro’r maes gyda Aneirin Karadog er mwyn codi ymwybyddiaeth i argyfwng ieithyddol ardal Cwm Gwendraeth. Wedi eu gorymdaith, roeddent yn dychwelyd i’r Babell Len lle oedd Aneirin Karadog yn perfformio ei awdl. Nid perfformiad traddodiadol mo’r perfformiad hwn, roedd Anierin yn rapio ei awdl i gyfeiliant cerddoriaeth Chris Josey. Roedd twist modern arall i’r perfformiad hefyd, roeddem yn gwrando ar y rap trwy glustffonau, megis silent disco. Trosiad oedd y zombies hyn yn ei awdl ‘Y meirw byw: Y datgyfodiad’ am y cynnydd mewn niferoedd yn ardal Cwm Gwendraeth sy’n dewis siarad Saesneg er eu bod yn Gymry iaith gyntaf. Roedd yn berfformiad hollol greadigol, ac er mai tynnu sylw i fater digalon a wna’r awdl, roedd y perfformiad mewn cyferbyniad llwyr wrth i Aneirin Karadog floeddio y Gymraeg yn ei holl ogoniant!

Share this article

Comment on this article