Rhys Dafis

2 August 2017

Shwmae! Rhys ydw i, a dwi’n dod o Lanarthne ar bwys Caerfyrddin. Dwi’n astudio Cymraeg (gydag ambell fodiwl newyddiaduraeth ac athroniaeth) ym mhrifysgol Caerdydd. Fydda i’n dechrau fy mlwyddyn olaf ym mis Medi.

Fy mhrif ddiddordebau yw cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a phel-droed. Dwi wedi bod i’r steddfod nifer o weithiau o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf i mi weithio yno.

Heblaw am waith ymarferol yn y brifysgol a’r ychydig erthyglau rwyf wedi eu hysgrifennu nid oes gen i lawer o brofiad ym maes newyddiaduraeth, felly dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael dysgu sgiliau newydd a chael mwy o brofiad wrth weithio gyda tim Llais y Maes.

@Brawd_Houdini

Share this article

Comment on this article