5 Peth i’r Plant

2 August 2015

Gan fod y gwyliau haf wedi hen gychwyn pa le gwell i fynd a’ch plant nag i’r Eisteddfod Genedlaethol?

Gyda’r Eisteddfod ond ar ei hail ddiwrnod mae digonedd o amser ar ôl i ymweld â’r Maes a chymryd rhan yn y dewis eang o weithgareddau ac adloniant sydd ar gael. Buon ni o amgylch y Maes yn cysylltu â’n hochrau plentynnaidd er mwyn darganfod blas o ddigwyddiadau’r wythnos. Dyma beth wnaethom ni ffeindio:-

Pabell S4C a Cyw

Roedd digon o gyffro yn dod o babell S4c bore ‘ma wrth i griw Cyw ddiddanu’r plant trwy ganu caneuon adnabyddus megis, ‘Pen, Ysgwyddau, Coesau, Traed’. Peidiwch â phoeni os nad oeddech yn ddigon lwcus i ddal y sioe fore ‘ma, bydd Cyw a’i ffrindiau yn cynnal perfformiadau trwy gydol yr wythnos i ddiddanu’ch plant.

Chwaraeon2Q7A0030

Ar gyfer y plant sy’n hoff o chwaraeon mae pabell S4C a Radio Cymru yn cynnig gweithgareddau cystadleuol amrywiol. Neu, os oes well ‘da chi ddatblygu eich doniau mae Dragon Sports yn cynnig llu o sesiynau gwahanol ac maent wedi ei leoli drws nesaf i’r castell sbonc.

Sgiliau Syrcas

Gan aros ar y thema o sgiliau, nid dim ond sgiliau chwaraeon sy’n cael eu cynnig ar y Maes trwy gydol yr wythnos ond hefyd sgiliau mwy anarferol megis y rhai sy’n cael eu cynnig gan Sgiliau Syrcas. Mae Sgiliau Syrcas yn rhoi cyfle gwych i blant ddysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer bod yn aelod o syrcas. Mae nifer o bethau’n cael eu cynnig megis jyglo a sut i ddefnyddio hwla hwp.

Maes D

Draw ym mhabell Maes D, mae nifer fawr o ddigwyddiadau’n digwydd trwy gydol yr wythnos ar gyfer plant i hybu’r iaith Gymraeg. Heddiw, rhwng 11-3 mae cyfle i chi fynd draw i gysylltu gyda’ch ochr greadigol a rhoi cynnig ar y sesiwn crefftau. Yn dilyn hyn am 3 mae Parti Magi Ann; ewch draw i ymuno yn yr hwyl!

Pabell Prifysgol Caerdydd

Peidiwch ag anghofio i ddod draw i babell Prifysgol Caerdydd ble mae ‘na ardal chwarae i blant yn cynnig pob math o bethau o liwio i’r twba tywod. Tra bod y plant yn chwarae, mae ‘na gyfle i’r rhieni ymlacio a chael paned a siocled am ddim!

Dim ond blas yw hyn o’r hyn sydd ar gael, mae cymaint mwy o bethau i’w gweld felly peidiwch ag oedi; dewch yn llu i ymuno yn yr hwyl!

Share this article

Comment on this article