Beth fydd dyfodol Maes yr Eisteddfod?

7 August 2015

CLzhdBeWUAAhn7S CLzhdFNW8AAZd7rMi fuodd dwy ohonom ni o dîm Llais y Maes yn sgwrsio gyda Garry Owen ar ei raglen Taro’r Post ar BBC Radio Cymru am ddyfodol Maes yr Eisteddfod o ganlyniad i drafodaeth dros leoliad Eisteddfod Genedlaethol 2018 yng Nghaerdydd. Mae sôn bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn y brifddinas ac yn manteisio ar yr adeiladau sydd yna’n barod yn hytrach na defnyddio’r Pafiliwn a gweddill y pabelli sydd wastad wedi cael eu cysylltu â’r Eisteddfod.

Ydych chi’n meddwl bod hyn yn syniad ffab ac yn rhoi cyfleodd amhrisiadwy i berfformwyr y dyfodol? Neu ydych yn anghytuno’n llwyr ac yn meddwl bydd gwasgaru digwyddiadau’r Eisteddfod yn newid naws y dathliad blynyddol?

Article tags

Share this article

Comment on this article