Brwydr y beirdd yn cipio dychymyg y dorf

5 August 2015

Roedd llond babell wedi ei swyno yn ystod ymryson y beirdd prynhawn ‘ma. Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys cyflawni tasgiau a darllen eu cynigion, a chael marc o ddeg dros dîm. Llwyddodd timau Caernarfon, Maldwyn a Morgannwg i adloni, ond y tîm lleol aeth a hi yn y diwedd gyda 47 o bwyntiau.

IMG_20150805_154603

Roedd nifer o’r beirdd wedi taro tant gyda’r gynulleidfa, a Mari George, yr unig fenyw ar y llwyfan, ddim yn siomi. Pan ddaeth ei thro hi, chwerthin oedd ymateb y gynulleidfa i’w chwpled clyfar, “ni wn i am ddim sy’n waeth, na hen ddyn a’i farddoniaeth.”

IMG_20150805_155508

Er mai hi yw’r unig fenyw i gystadlu dros dîm Morgannwg, mae hi wrth ei bodd. “Dw i’n mwynhau barddoni gyda’r dynion,” dwedodd hi, “ni’n wneud hwyl am ben ein gilydd.”

Roedd y beirdd wedi ysgogi pob math o emosiwn yn ystod yr awr a hanner, ac ymateb y gynulleidfa yn dod â hi’n fyw. Doedd Mari George ddim wedi teimlo ei bod dan bwysau’n ormodol. “Ni’n dîm, felly ni’n cefnogi’n gilydd. Os yw rhywun yn styc ar ryw dasg, bydd rhywun arall yn helpu.”

Os dych chi am ymuno â’r hwyl, gallwch find i’r babel lên yfory am 2:15yh, a fydd y rownd derfynol ddim yn un i fethu Prynhawn Sadwrn am 2:30yh.

Article tags

Share this article

Comment on this article