“Cerdd Bop Gymraeg – O Marêd i American Interior”

2 August 2014

Yng nghanol y gwynt a’r glaw ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli, cafwyd sgwrs ddiddorol ac addysgiadol gan Dr Sarah Hill a’r awdur Jon Gower a’r gerddoriaeth bop Cymraeg ym mhabell Prifysgol Caerdydd.

 

Canolbwynt y ddarlith oedd cymharu cerddoriaeth bop Cymru dros y degawdau diwethaf gyda cherddoriaeth bop America. Egyr y ddarlith wrth i Dr Sarah Hill gyflwyno y gynulleidfa i Alan Lomax o America, sef un o brif gasglwyr canu gwerin yn yr UDA yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ef yw Marêd y Cymru! Cyfeiriodd Jon Gower at gof Marêd o ganeuon gwerin Cymru ‘fel rhyw fath o juxebox.’ Arweiniodd y sgwrs yn ei blaen wedi hynny i gymharu tebygrwydd rhwng mwy o gerddorion Cymru gyda cherddorion o America, megis Dafydd Iwan gyda Woody Guthrie a Mary Hopkin gyda Pete Seegre.

 

Wrth drafod y berthynas rhwng cerddorion Cymru gydag America, cyfeiriwyd at y cerddor John Cale a adawodd ei gartref yn Garnat i fynd i astudio y viola gydag Aaron Copland yn America. Cafodd fywyd diddorol en America ac yn enwedig fel aelod o’r grwp roc arbrofol ‘The Velvet Underground.’ Roedd gan Cale berthynas gymhleth â Chymru ac esboniodd hyn unwaith gyda’r geiriau, ‘it’s like having vinegar in my vains.’

 

Prif fwriad y gyfeiriadaeth hyn at Cale o safbwynt y ddarlith oedd er pwrpas cyflwyno Gruff Rhys, sef cerddor a wêl Dr Sarah Hill a Jon Gower yn unfrydol sydd â thebygrwydd creadigol i Cale, ond â hyder gwahanol iddo o ran Cymreictod. Cyfeiriodd Jon Gower ato fel y ‘boi mwyaf creadigol yng Nghymru.’ Caiff y datganiad hyn ei gefnogi gan lyfr, albwm, ffilm ac app Gruff Rhys sef yr ‘Americn Interior’ sy’n chwyldroadol gellid dadlau! Teimla Jon Gower fod dwyieithrwydd yng Nghymru wedi gwreiddio erbyn hyn sy’n galluogi i gerddorion megis Gruff Rhys i ffynnu o ran ei creadigrwydd.

Share this article

Comment on this article