Cofio Gerallt

3 August 2014

Ychwanegwyd sesiwn goffa arbennig at arlwy’r Babell Lên brynhawn Sadwrn, er cof am y diweddar Brifardd Gerallt Lloyd Owen.

Yn hynod addas, mae’n debyg, o gofio’r geiriau anfarwol hynny “Fedar neb gyfieithu Gerallt Lloyd Owen”, cafwyd ton o chwerthin a chymeradwyaeth pan y dywedwyd ar ddechrau’r sesiwn nad oedd modd holi yn Saesneg o’r llwyfan a oedd unrhywun yn dymuno cael offer cyfieithu – oherwydd y Rheol Iaith!

Yn y sesiwn, dan ofal y Prifardd Meirion MacIntyre Huws, soniwyd am sawl haen i gymeriad Gerallt. Clywyd am Gerallt: “y bardd; y tad; y cyfaill; y meuryn” a’r “ysbrydoliaeth”. Dyma ŵr a oedd a’i fryd, nid yn unig ar fod yn fardd, ond ar fod y bardd gorau yng Nghymru. Aeth Gerallt ymhellach na hynny yn ôl Meirion McIntyre Hughes, bu iddo feistroli’n llwyr yr iaith a’r gynghannedd.

Dangosodd Gerallt i’r Prifardd Ceri Wyn Jones y gall barddoniaeth Gymraeg gystadlu ag unrhyw farddoniaeth. Roedd cynildeb gwaith Gerallt, a’r syniadaeth genedlaetholgar a oedd yn gynwysedig oddi fewn i hynny, yn ddylanwad trwm ar fardd ifanc.

Cafwyd cyfle i gloriannu cyfraniad Gerallt mewn meysydd nad ydynt mor gyfarwydd efallai. Yn ogystal â’r bardd a oedd yn digalonni am gyflwr y Gymru hon mewn cyfrolau megis “Cerddi’r Cywilydd” a “Cilmeri a Cherddi Eraill”, roedd elfen weithredol iawn yn perthyn iddo yn ogystal. Bu iddo roi’r gorau i’w swydd fel athro ar ôl ond pum mlynedd. Aeth ymlaen i sefydlu gwasg, i gyhoeddi cylchgronnau Cymraeg i blant yn ogysgtal â sefydlu cwmni a oedd yn prynu busnesau yng Ngwynedd i’w cadw mewn dwylo lleol. Yr un yw ei alwadau o hyd meddai Myrddin ap Dafydd yntau: “prynwch eich tai a’ch busnesau” gan fyw fel “Cymry Cymraeg rhydd”.

Mawr yw dyled yr Eisteddfod, a’r Babell Lên yn benodol, i Gerallt. Teyrnasodd dros Ymryson y Beirdd yn yr Eisteddfod am flynyddoedd lawer yn rhinwedd ei swydd fel Meuryn. Dywedwyd mai iddo ef y mae’r diolch bod y talyrnau yn rhedeg mor llyfn hyd heddiw. “Rhaid i ni gael trefn” oedd ei alwad wrth gyflwyno’r rheolau newydd ym 1983.

Gruffudd Antur oedd cynrychiolaeth y to diweddaraf o feirdd i ddod o dan ddylanwad Gerallt. Mae’r modd yr oedd pobl ifanc yn “baglu dros ei gilydd” i dalu teyrnged i Gerallt ar Twitter a Facebook -ac yn dyfynnu’n helaeth o’i gerddi wrth wneud hynny – yn profi cwmpas ei ddylanwad. Dywedodd y bardd ifanc hwn bod y modd y mae Cymry yn eu harddegau yn dod ar draws waith Gerallt ar feysydd llafur cyrsiau TGAU a Lefel A yn lleddfu unrhyw deimladau o “angst” a chwestiynu gwerthoedd sy’n gyffredin wrth dyfu’n hyn tra bo’n perthyn i ddiwylliant lleiafrifol. Yn ddi-os, golyga’r cwestiynu hyn gwestiynu ein Cymreictod. Fe lwyddodd Gerallt, gyda’i eiriau, i’w hargyhoeddi, i brofi i’r ieuenctid werth eu Cymreitcod, yn ôl Gruffudd Antur. Bydd gwaddol ei eiriau yn parhau i ysbrydoli.

Share this article

Comment on this article