Uno Cymunedau ym Maes D

2 August 2015

Eleni, bydd Maes D yn gobeithio denu cynulleidfa eang gydag acts fel Plu a Dafydd Iwan. Yn ôl Catrin Evans, swyddog y dysgwyr, mae prif acts fel y rhain, yn ogystal a gweithgareddau amrywiol yn ymgais i ddod â dysgwyr a siaradwyr rhugl ynghyd.

“Cyn imi gael y swydd ‘ma, o’n i ddim wedi meddwl am Maes D fel lle i bawb,  jyst dysgwyr,” mae hi’n esbonio. “Ond rwan bo fi’n gweithio yn yr Eisteddfod, dw i wir yn trio denu pawb.”

IMG_20150802_113247

Bydd Plu, band gwerin poblogaidd yn canu am 12yh dydd Gwener, a Dafydd Iwan yr un diwrnod am 4:45yh.

Pwysleisiodd Catrin bwysgrwydd cyfleoedd i siarad i ddysgwyr, ““beth sy’n dda am Eisteddfod, yw bod cymaint o gyfle i siarad Cymraeg tu allan i’r dosbarth, yn anffurfiol.”

Yn ogystal â cherddoriaeth amrywiol, bydd gweithdai o ddiddordeb i lawer. Er enghraifft, yfory bydd gweithdy ar ieithoedd yn llyfrau “The Lord of the Rings”. Seiliodd Tolkein, eu hawdur, rai elfenau o’r ieithoedd ar y Gymraeg, a bydd y gweithdy yn gyfle i edrych ar hyn o 2yh ymlaen.

“Mae’n ddiddorol achos naeth Tolkein fyw yng Nghymru.” Meddai Katie Hall, gyda Llais y Maes, “mae’n ddiddorol sut gall ddiwylliant Cymraeg fod yn ddylanwad creadigol ar unigolyn.”

Yn ogystal â hyn, bydd pob math o bethau i’w wneud ar Maes D, o Zumba am 4yh yfory, i Hanes Sir Drefaldwyn Ddydd Gwener am 1yh. Wrth gwrs, bydd digonedd i ddysgwyr o hyd, fel Cystadleuaeth Dysgwyr y Flwyddyn ac awr “Cariad@Iaith” Prynhawn Mercher.

Article tags

Share this article

Comment on this article