Dysgwr y Flwyddyn: Joella Price

7 August 2014

Nos ddoe, mi wnaeth Joella Price o Gaerdydd ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2014. Cynhaliwyd y seremoni ym mharc y Scarlets, Llanelli. Ar y trydydd o Fai, cynhaliwyd rownd gyntaf y gystadleuaeth yng Ngherddi Fotaneg Genedlaethol Cymru lle chafodd pedwar cystadleuydd eu dewis ar gyfer y rowndiau terfynol y wythnos yma. Bore ddoe mi gafodd y pedwar eu cyfweld yng ngholeg Sir Gar’, ac yna roedd sesiwn Dysgwr y Flwyddyn ym mhabell Maes D lle cafodd y cyhoedd siawns i gwrdd â’r cystadleuwyr. Roedd gwrthwynebiad yn gryf yng nghystadleuwyr ddoe: Holly, Susan a Nigel, ond Joella ddaeth i’r brig. Derbyniodd Joella tlws a chreuir gan Mari Thomas.

Mae Joella yn wreiddiol o Bort Talbot o deulu di-gymraeg ond wnaeth hi dreulio flynyddoedd yn teithio America, Awstralia, Lloegr a Malta cyn symud nôl i Gymru er mwyn gweithio fel nyrs yng Nghaerdydd. Aeth Joella i Ysgol Dyffryn ym Mhort Talbot, sef ysgol Saesneg. Nid oedd gwersi yn ddigon aml er mwyn iddi ddysgu Cymraeg yn iawn. Ar ôl ysgol, aeth Joella i goleg yn Abertawe lle dechreuodd hi fynychu dosbarthiadau nos, ond wrth iddi ddechrau teithio, fe ddaeth yn anodd iddi barhau â gwersi yn amlwg. Symudodd Joella i America gan fod ganddi deulu yno ac yn gyfarwydd gyda’r lle ers iddi fod yn tair blwydd oed. Pob haf roedd hi’n teithio yna er mwyn gweithio yng ngwersylloedd haf i bobl anabl. Ar ôl y cyfnod hwn wnaeth Joella wedyn teithio i Awstralia am ychydig gyda visa yn gweithio unrhyw waith a oedd phosib. Yn fuan, wnaeth Joella symud i Nottingham yn 2009 ac mi wnaeth hi ymuno â’r Gymdeithas Gymraeg yn y ddinas,. a bu hefyd yn gwylio S4C ar-lein yn ystod y cyfnod hwn. Hefyd, mi wnaeth Joella teithio i Falta er mwyn hyfforddi fel nyrs. Dychwelodd Joella i Gymru i ymgartrefu yng Nghaerdydd dwy flynedd yn ôl fel nyrs mewn uned gofal dwys yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Dywed, “Dw i’n credu mai’n gwneud gwahaniaeth mawr i’r cleifion os taw nyrs sydd yn siarad Cymraeg sydd yn ei thrin nhw, yn enwedig os taw famiaith nhw yw Gymraeg” – “Mae’n gwneud y gwahaniaeth iddyn nhw ac felly maen nhw’n gwerthfawrogi’r gwasanaeth ac yn ymateb yn well.” Neges Joella i bobl sydd yn meddwl am ddechrau dysgu Cymraeg yw i jyst “ewch amdano, ma’ fe’n werth y byd. Mae fy mywyd i wedi newid yn holl ac mae’n lysh i allu siarad Cymraeg”

“Mae bron yn agor byd newydd i chi, diwylliant newydd. Teimlais o’r blaen bod e’n anodd deall diwylliant yno’n iawn heb allu siarad y Gymraeg. “Mae Joella’n dweud bod hi’n gwneud popeth yn y Gymraeg nawr – tecstio, danfon e-byst, facebook – mae’n rhan fawr o’i bywyd. Eisteddfod 2010 oedd Eisteddfod gyntaf Joella a daeth y fenyw i’r maes fel “a rabbit in the headlights” mae’n esbonio wrth giglan. “Baswn i’n dweud os ‘da chi’n ddi-gymraeg, ewch!”
“Mae’r ffordd rydw i’n meddwl wedi newid yn hollol, mae’n fraint i allu siarad Cymraeg yn y gwaith a gyda fy ffrindiau. Hoffwn i roi rhywbeth nol i’r Gymraeg ac felly hoffwn fod yn diwtor pryd mae fy Nghymraeg yn y gorau fe allai fod.”

Roedd Joella’n awyddus i gael y neges ar draws i ddysgwyr fod hi’n bwysig i wneud pethau tu allan i ddosbarthiadau megis grwpiau cymdeithasol. Dywed, “rydw i’n mynd i Chapter bob nos llun yng Nghaerdydd ble mae dysgwyr o bob lefel yn mynd i drafod a chymdeithasu” “ambell weithiau rydym yn aros ‘na yn siarad ac yn yfed am chwech awr. Mae’n bwysig i fyw yn y Gymraeg, byddech chi’n symud yn araf iawn os dwyt ti ddim.”

Da iawn a llongyfarchiadau mawr i Joella Price, ein dysgwr y flwyddyn 2014 yn yr Eisteddfod Genedlaethol Sir Gaerfyrddin. Dal ati i ddysgu a wella!

 

IMG_0148IMG_0161IMG_0144

 

 

Article tags

Share this article

Comment on this article