Rhodri ap Dyfrig, Rhodri Talfan Davies, Gwion Lewis, Sioned Davies ac Ian Jones

Pobl Ifanc a Dyfodol Darlledu Cymraeg

3 August 2015

Prynhawn ‘ma, daeth torfeydd i drafod dyfodol y cyfryngau Cymraeg yn stondin Prifysgol Caerdydd. Profodd y sgwrs, wedi’i threfnu gan y Brifysgol, y BBC ac S4C i fod yn bwnc llosg. Roedd llawer yno o’r farn bod darlledu Cymraeg ar ei cholled a bod hwn yn amser tyngedfennol i ddyfodol y diwydiant.

IMG_20150803_125057

Daeth S4C o dan y chwyddwydr mwy nag unwaith. Yn ôl Gwion Lewis a fu’n cadeirio’r drafodaeth a hefyd yn cyflwyno rhaglen ar y cyfryngau Cymraeg ar gyfer BBC Radio Cymru, “un pryder sy gen i yn sgil y drafodaeth ydy bod S4C yn gyndyn iawn i ddweud llawer yn gyhoeddus .. baswn i’n tueddu i ddweud bod na le i S4C ddweud mymryn yn fwy yn gyhoeddus, a dydy hynny ddim yn golygu bod yn ymfflamychol.”

Roedd llawer o sôn hefyd sut y dylai S4C a’r BBC gwneud mwy i ddenu’r to ifanc. “Dw i’n siarad Cymraeg, dyw rhieni fi ddim yn siarad Cymraeg, a dw i ddim yn gweld S4C yn berthnasol i fi.” Dwedodd Katie Hall wrth y panel, sy’n un o dîm Llais y Maes. “Mae angen mynd â’r Gymraeg at y to ifanc,” dwedodd Rhodri Talfan Davies, cyfarwyddwr BBC Wales. Ychwanegodd, mae’n amser meddwl am atebion newydd i gyrraedd y genhedlaeth yma yn hytrach na atebion hen ffasiwn i broblem newydd.

“Mae angen buddsoddi mwy yn yr ochr ddigidol,” oedd ateb Rhodri ap Dyfrig, dyfeisiwr Ffrwti. Soniodd am y ffordd mae cwmniau fel Google yn personoli ar gyfer yr unigolyn fel un esiampl o addasu i’r oes.

Cyfaddodd Ian Jones, prifweithredwr S4C, nad ydyn nhw wedi gwneud digon yn enwedig i apelio at y genhedlaeth ifanc, ond dwedodd fod eisiau arian i wneud pethau fel hynny yn y dyfodol. “Dychrynllyd” oedd ei air e am y toriadau dros y pum mlynedd diwethaf, a dwedodd hyd y bod sicrwydd am y cyllid  , roedd yn anodd rhoi sicrwydd am natur a dyfodol. Hyd yn hyn, mae S4C wedi cael toriadau o 36% yn ei chyllid.

I fyfyriwr newyddiaduraeth a pherson ifanc, mae hyn i gyd yn ffurfio darlun brawychus iawn. Heb fuddsoddiad ac arloesi, gallai cyfryngau Cymraeg ffeindio eu hunain wedi gadael tu ôl yr oes.

 

Share this article

Comment on this article