Gobaith i Gomedi Cymraeg

4 August 2015

Mae comediwyr talentog wedi bod yn perfformio i dorf yng Nghaffi maes B pnawn ma. Nid hwn yw’r tro cyntaf i gomedi fod yn rhan o’r maes, ond mae’r fath ‘ma o adloniant dal yn brin o gymharu â cherdd a chân.

IMG_20150804_160052

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nosweithiau comedi wedi cael eu trefnu yn ystod yr Eisteddfod, gan gynnwys acts fel Tudur Owen a ‘Madam Rygbi’ (Rhian Davies). Eleni, er bod dim noswaith wedi ei phennu’n noswaith gomedi, mae sesiwn gomedi wedi bod heddiw am 3yh, a bydd un arall yfory am yr un amser.

Roedd y sesiwn yn gyfle i ymlacio yn lloches y babell, ond ar yr un pryd roedd dulliau’r tri act yn caniatáu i’r gynulleidfa fod yn rhan o’r sioe. Chwiliodd Phil Cooper, yr ail act o’r Rhondda, am ddeheuwyr eraill. “Roedd hi bron yn cico bant!” Chwerthodd e ar ôl clywed Caerdydd yn lle Caerfyrddin. Doedd arno ddim ofn  gwneud hwyl am ben ei ardal. “wedaist ti ‘not bad’ ond oedd llygaid yn gweud bod e’n horrible!” Sylwodd mewn ateb ar ôl gofyn menyw am ei meddyliau am y Rhondda.

IMG_20150804_150859

Llawn dop o fwrlwm, deliodd Steffan Alun, act ola’r sesiwn a sylwadau ac atebion gan eu troi’n rhan o’r sioe. “Dyna’r ‘heckles’ mwya rhyfedd dw i wedi cael, cywiro fi am Llanfair PG!” Atebodd i un o’r ardal honno. Doedd arno yntau ddim ofn chwaith gwneud hwyl am ben yr Eisteddfod. Gan gyfeirio at ymgais yr wyl i gadw’n gyfoes, dwedodd, “os ti’n ddigon ifanc i fod yn neud dawnsio disgo, ti ddim yn gallu cofio cerddoriaeth ddisgo.”

Buodd Gethin Robyns lan ar ddechrau’r sesiwn a dychwelodd rhwng y ddau act arall, a daeth â chymysgedd o jôcs amrywiol i’r sioe – profodd i herio’r ystrydeb bod yr Eisteddfod yn gwbl “gweddus” bob tro – heb fynd i ormod o fanylder “trynk eliffant” oedd thema un o’i jôcs (galla i adael gweddill y jôc honno i’ch dychymyg). Eto, roedd yn barod i ladd ar ei ardal gyda chyfres o bytiau bach digri – disgrifio hi’n “noson rhiant” yn lle noson rhieni, yn yr ysgol leol (lle mae e’n athro).

IMG_20150804_150152

Mae’r sesiwn heddiw wedi profi bod yn drysor cudd yn y môr o weithgareddau sydd i wneud. Gobeithio bydd comedi yn chwarae rôl fwy amlwg yn yr Eisteddfod yn y dyfodol.

Article tags

Share this article

Comment on this article