O le ti’n dod?

6 August 2015

Mae’r Eisteddfod yn denu amrywiaeth eang o bobl bob blwyddyn fel Will a Carly o Texas. Mae’r ddau yma yn aros yn y Maes carafanau eleni ac wedi bod yn manteisio ar yr amrywiaeth o bethau mae’r Eisteddfod yn ei chynnig. I’r ddau hyn sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg, yr Eisteddfod yw’r esgus perffaith iddynt i ymarfer eu Cymraeg.

Yn ôl y pâr, un o’r pethau gorau am yr ŵyl yw ei hanes, gyda Will yn dweud “It’s amazing to be a part of something that’s older than our country” wrth iddynt fwynhau ymuno â thraddodiadau gwbl unigryw i ni’r Cymry.

Share this article

Comment on this article