Ellen Carter

Pa mor groesawgar yw’r Eisteddfod eleni?

2 August 2016

Eleni, mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal mewn ardal Saesneg ar y cyfan,  sef Y Fenni. Felly mae’n ddiddorol ystyried pa fath o effaith bydd hyn yn cael ar yr Eisteddfod ac ar yr ardal. Dywedodd Gwyn Eiddior, cynllunydd Artistig y Maes: “gobaith y Maes eleni yw croesawu pawb.”

Rydw i’n dod o’r Fenni ac yn byw yng Nghasnewydd nawr. Mae’r ddwy ardal yn ardaloedd di-Gymraeg ac rwyf wedi cael trafferth i gael cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith. Fodd bynnag, rydw i’n falch iawn bod yr Eisteddfod wedi denu pobl leol ac yn gwybod bod fy nheulu a ffrindiau sydd i gyd yn ddi-gymraeg yn dod i’r Eisteddfod eleni. Yn fy marn i, bydd yn wych cynnal yr Eisteddfod mewn ardaloedd di-Gymraeg yn fwy aml.

Wnes i siarad gyda Gwenllïan Carr, Pennaeth Cyfathrebu’r Eisteddfod, a dywedodd hi bod llawer o bobl aeth ‘i’r Eisteddfod Glyn Ebbw chwe blynedd yn ôl wedi dod yn ôl eleni’ sy’n bwysig iawn wrth ystyried pa mor bwysig yw’r ffaith bod yr Eisteddfod yn pafrhau i deithio. Er bod y Fenni yn dref draddodiadol lai Gymreig na lawer, dywedodd Gwenllïan Carr: “Mae’r gefnogaeth leol wedi bod yn ffantastig yn arwain at yr Eisteddfod eleni.” Mae Gwyn Eiddior wedi trafod ei ysbrydoliaeth wrth gynllunio’r Maes yma: “Pan mae’r Eisteddfod yn dod i ardal sydd â thraddodiadau llai Cymraeg dwi’n credu bod yn bwysig denu pobl newydd i’r Maes a dwi’n meddwl efallai bod creu Maes lliwgar yn ffordd o ddenu nhw.” Rydw i’n credu ei fod e wedi llwyddo i greu Maes lliwgar iawn gyda baneri sydd wedi cael eu creu ac argraffu gan bobl leol. Felly, mae’r cynlluniwr wedi sicrhau bod yr ardal leol wedi elwa o’r Eisteddfod.

image

Rydw i’n credu bod yn hynod o bwysig i’r Eisteddfod gyrraedd ardaloedd gwahanol bob blwyddyn gyda agweddau gwahanol o Gymraeg. Mae gyfle i’r Eisteddfod cael effaith mawr ar genhedlaeth nesaf ac yn amlwg i hybu’r iaith Gymraeg. Dywedodd Gwenllïan Carr, o safbwynt yr Eisteddfod, “Mae’n eithriadol o bwysig ein bod ni’n teithio o gwmpas Cymru ac ein bod ni’n mynd i wahanol ardaloedd, yn cynnwys ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf ac i ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn llai cryf. Oherwydd mae’n gyfle i hybu’r iaith ac mae’n gyfle i ddangos i bobl pwysigrwydd yr iaith.” Ychwanegodd, “mae’n gallu helpu creu’r genhedlaeth nesaf o ran dewis addysg Gymraeg a magu plant yn y Gymraeg.”

 

Fel rhywun o’r ardal yma, rwy’n gallu gweld effaith yr Eisteddfod a’r argraff dda mae pobl yn cael o’r iaith. Felly, wnes i ofyn i Gwenllïan Carr os oedd yna beryg na fydd yr Eisteddfod yn teithio yn y dyfodol.  “Ein gweledigaeth ni yn y dyfodol ydy parhau teithio. Mae’n bwysig eithriadol bod pawb yn cael y cyfle i gael Eisteddfod sy’n lleol ac yn eu hardal nhw” oedd ei hymateb. Felly, rydym i gyd yn gallu disgwyl Eisteddfod draddodiadol dros y blynyddoedd nesaf sy’n golygu bydd mwy o ardaloedd fel fy ardal i yn elwa o’r Eisteddfod.

 

Share this article

Comment on this article