5 July 2014

Pafiliwn Pinc yn ei le!

Mae’r Eisteddfod ar y gorwel ac ar ei ffordd i Sir Gâr, wrth i’r Pafiliwn Pinc gael ei godi ar y Maes yn y Meysydd Gwyl, Parc Arfordirol Llanelli, ddoe.

Mae gan yr awyr uwchben tref Llanelli chwech o dyrrau newydd erbyn hyn ac fe fydd y rhain yn aros yno tan ar ôl y Brifwyl a gynhelir o 1-9 Awst.

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, “Ychydig dros bedair wythnos sydd i fynd cyn y bydd yr Eisteddfod yn cychwyn eleni. Fe’i cynhaliwyd yn Sir Gâr y tro diwethaf yn 2000, ac mae cefnogaeth a chymorth y bobl leol a’r gwirfoddolwyr wedi bod yn ardderchog dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae codi’r Pafiliwn Pinc – sy’n symbol eiconig o ddiwylliant Cymru – yn arwydd pellach bod y trefniadau ar gyfer yr wythnos yn dod ynghyd, a rydym i gyd yn edrych ymlaen am wythnos i’w chofio yn yr ardal ddechrau Awst.”

Mae trefnwyr yn gobeithio y bydd yr Eisteddfod – un o wyliau celfyddydol mawr y byd – yn denu tua 150,000 o ymwelwyr i ardal Sir Gâr dros gyfnod y Brifwyl. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 0845 4090 400 neu ewch i wefan yr Eisteddfod.  

Share this article

Posted by

emma

emma

Comment on this article