Pigion Y Dydd

5 August 2014

Darlith Guto Harri

Y bore ‘ma, es i i ddarlith newyddiaduraeth gyda Guto Harri Cyfarwyddwr Cysylltiadau News UK,  Siân Griffiths, Golygydd Addysg y Sunday Times a Pryderi Gruffydd, cynllunydd graffeg i’r wasg.  Fel darpar newyddiadurwr fy hun, rooeddwn i’n falch iawn am y cyfle i wrando ar, a chwrdd â, newyddiadurwyr mor enwog, proiadol  a dylanwadol yn y busnes. Roedd y sgwrs yn mor diddorol i mi achos dangosodd does dim ots o ble i chi’n dod , beth ydy’ch cefndir, neu os ydych chi’n ddyn neu fenyw, wrth weithio’n galed gallwch llwyddo yn y diwydiant newyddiaduraeth.

Ysbrydoliaeth arbennig i mi oedd Siân Griffiths o’r Times. Mae hi’n newyddiadurwyr profiadol sydd wedi torri’r drwy nenfwd gwydr mewn diwydiant sydd yn enwog am fod yn llawn o ddynion mewn safleoedd uchel. Gobeithia bod fy ngyrfa’n gallu bod mor llwyddiannus yn y dyfodol!

El Salsa

Dwi’n caru bwyd Mecsico mwy na unrhyw beth arall yn y byd! Pan welais i’r stondin El Salsa roeddwn i fili aros i samplo’r rap cyw iâ fajita. Rhowch rhywbeth sbeislyd i fi unrhyw ddydd a byddai’n ferch hapus iawn. Roedd y rap yn hollol hyfryd ac heb os, bwyd neisa’r maes. Cinio blasus, ac i ddweud y gwir, hollol lysh!

Ysgol Heol Goffa

Es i gyda Chomisiynydd Plant Cymru i ymweld â  stondin Ysgol Heol Goffa (ysgol i blant anabl) prynhawn ‘ma, a roeddwn  wrth fy modd i weld y pethau gwych mae’r ysgol yn gwneud i wella bywydau’r disgyblion. Mae’r athrawon a’r cynorthwywyr yn angerddol am y gwaith mae’r ysgol yn ei wneud ac yn ymroddedig i blant Heol Goffa. Mae’r ysgol yn cyflwyno’r disgyblion i lwyth o weithgareddau fel golff, pêl droed, athletau, beicio, a gymnasteg, ac yn helpu nhw i ddatblygu sgiliau bywyd fel coginio, cynllunio, bwyta’n iachus, a golchi llestri. Ar ben hyn, mae’r Ysgol wedi trefnu teithiau i Langrannog am benwythnos antur, ac wedi mynd a’r plant i Awstria i sgïo – dwi’n mor genfigennus! Y peth wnaeth sefyll mas mwyaf i fi, oedd y clwb drama mae’r ysgol wedi creu i’r disgyblion. Mae’r clwb wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae’r plant wedi ‘neud perfformiad o A Midsummer Night’s Dream gan William Shakespeare – arbennig! Mae’n hyfryd i weld cyfleusterau mor wych i blant anabl lle gallant greu ffrindiau ac atgofion bod nhw’n caru. Mae’r ysgol, a’r gwaith maen nhw’n gwneud, wedi dod a gwên i fy wyneb a gobeithio i glywed sut mae’r trip nesaf i Dwrci yn mynd gyda’r criw.

 IMG_4357 IMG_4356 IMG_4358 Guto Harri

 IMG_4353

Share this article

Comment on this article