Pigion y dydd – Dydd Sul

3 August 2014

Bob dydd yr wythnos yma, fe fydd aelod o’n tîm yn dewis ei uchafbwyntiau o amgylch y maes. Ar ail ddiwrnod yr eisteddfod bues yn dringo y wal ddringo a mynychais ddrama ‘Llais’ gan Elgan Rhys.

Gweithgaredd – Y Wal Ddringo

photo 5

 

Treuliais fy more yn yr Eisteddfod yn crwydro’r maes a’r stondinau. Bues yn edmygu deunydd cartref pabell ‘adra’ ac yn llygadu crysau-t pabell ‘Cowbois.’ Cyn cinio perswadiodd ffrind imi y byddai dringo’r wal ddringo yn hwyl. I mi sydd â ffobia o uchder, roeddwn yn reit betrusgar o’r syniad. Ond wedi hir berswad, penderfynais fynd amdani a dringo. Wrth imi ddringo i fyny i’r copa yn araf gan duchan bob yn ail gam, sylwais ar yr olygfa hyfryd oedd o’r copa, ac yn wir, anghofiais am fy ofn o uchder! Os cewch gyfle i ymweld â’r maes, cerwch i ddringo’r wal er mwyn gweld golygfeydd godidog ardal Llanelli – nid i blant yn unig y mae cofiwch!

photo 4

‘Llais’ – Elgan Rhys

Ar yr olwg gyntaf, ymddengys y teitl ‘Llais’ gan Elgan Rhys yn gamarweiniol gan mai di-lais yw ei ddrama. Mae’n fonolog heb ddeialog. Fodd bynnag, nid camarweiniol mo’r teitl – dyma daro’r hoelen ar ei phen. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai drama deugain munud o ddistawrydd, ac eithrio cyfeiliant effeithiol Joshua Bowles ar y gitar, yn gallu ‘dweud’ cymaint wrth y gynulleidfa? Teimlaf nad wyf yn gor-ddweud wrth nodi hynny gan oedd cyn nifer o’r gynulleidfa o dan deimlad. Gan beidio â datgelu y cynnwys, ac yn bennaf gan mai dehongliad yr unigolyn yw hwnnw, rwyf am gloi’r ysgrif hwn gan eich annog i fynychu perfformiad arall o ‘Llais’ ddydd Mercher, y 6ed o Awst am 11 y.b. ym mhabell y Theatr Genedlaethol.

 

photo 3

Share this article

Comment on this article