Steffan Bryn

29 July 2014

Helo ‘na ! Steffan ydw’ i ac rwy’n edrych ymlaen at wasanaethu fel gohebydd gyda Llais y Maes yn Eisteddfod Sir Gâr eleni. Rwy’n dod yn wreiddiol o Ynys Môn, ond ‘rwyf bellach yn astudio Gwleidyddiaeth a’r Gymraeg yn y brifddinas ac yn mwynhau tu hwnt! Heb os, yr Eisteddfod Genedlaethol yw uchafbwynt y calendr diwylliannol Cymraeg am ei fod yn cyfuno’r holl agweddau ar ein Cymreictod cyfoes mewn un dathliad mawreddog, wythnos o hyd. Mae llwyddiant y Brifwyl yn cyfuno elfennau ar lenyddiaeth, cerddoriaeth a bywyd cyhoeddus Cymreig: pethau sydd yn sicr yn mynd â’m bryd. Fodd bynnag, yr her gynyddol i’r Eisteddfod yw ceisio cynnal y traddodiad balch hwnnw, tra bo’n dennu cynulleidfaoedd newydd. Gwych o beth i mi oedd gweld Prifysgol Caerdydd yn cyd-weithio â’r Eisteddfod mewn ymgais i daro’r cydbwysedd hwnnw. Mae bod yn rhan o Llais y Maes yn gyfle gwych i roi gogwydd newydd ar ŵyl sydd wedi hen ennill ei phlwyf. Rwy’n sicr yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r cyffro a’r egni hwnnw dros yr wythnos.

Hello there ! I’m Steffan and I’m very much looking forward to serving as a Llais y Maes reporter at the Eisteddfod in Carmarthenshire this year. Originally from Anglesey, I’m now studying Politics and Welsh in the capital- a great experience, suffice to say! Without a doubt, the National Eisteddfod is the highlight of the Welsh cultural calendar as it combines every aspect of our contemporary Welshness in one grand, week-long celebration. The success of the Eisteddfod combines elements of literature, music and Welsh public life: all things that very much take my fancy. However, the increasing challenge for the Eisteddfod is to maintain its proud tradition, whilst drawing new audiences. It was excellent to see Cardiff University working alongside the Eisteddfod in an attempt to strike that balance. Being a part of Llais y Maes is a great opportunity to present a fresh look on a festival that has long since established itself. I’m certainly looking forward to being part of that energy and excitement during the week.

Share this article

Comment on this article