Anna Griffin

Stondin y dydd: Pice Bach twym

2 August 2016

Mae stondin ‘Pice Bach twym’ gyferbyn prif fynedfa’r Eisteddfod. Y perchennog yw Karen Shellam o Gasnewydd. Mae tair cenhedlaeth yn rhedeg y stondin heddiw: Karen, ei mam Ann Thompson a’i nith Abi Shellam. Mae’r teulu yn gwerthu pice ar y maen, bara brith a diodydd poeth. Mae’r bwyd i gyd yn cael ei goginio gan Karen o’i chegin adref. Mae pice ar y maen boeth yn ffres iawn ac yn berffaith i greu teimlad cartrefol yn y glaw. Mae’r pris yn rhesymol iawn – £2 am fag o 6 pice ar y maen sy’n yn boeth, syth o’r radell.

image

Does neb ar y stondin yn siarad Cymraeg yn rhugl ond maent yn gallu deall yr iaith yn iawn. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae’r teulu wedi gwneud ymdrech fawr i ddefnyddio’r Gymraeg ar eu harwyddion gyda phopeth yn ddwyieithog.

Gofynnais faint y mae nhw wedi gwerthu heddiw – “hundreds!” oedd yr ateb. Mae’r pice ar y maen yn flasus iawn felly ewch i geisio nhw yn fuan yn y glaw neu yn yr haul! Gobeithio’r haul…

Share this article

Comment on this article