Strwythur Storïo ‘Pobol y Cwm’

8 August 2014

 

photo 1photo 2

 

Mae’r ddau fwrdd gwyn hyn wedi eu gosod yn arferol yn Ystafell Storïo yr opera sebon Pobol y Cwm yn adeiladau y BBC ym mae Caerdydd, ond yn ystod yr wythnos hyn, maent i’w gweld ym mhabell ‘Y Lle Celf’ – ond ai darn o gelfyddyd ydynt?

Mae’r opera sebon ar ganol prosiect ‘Pobol Prism’ gydag Inga Burrows, sydd wedi ei chyflogi yn artist preswyl i’r gyfres deledu am gyfnod o 9 mis, a thrwy ei gweledigaeth hi y mae’r gwaith celf hyn wedi cyrraedd maes yr Eisteddfod. Nod y prosiect yw archwilio’r modd y gall actorion ddatblygu methodoleg newydd wrth fynd ati i actio eu cymeriadau o ddydd i ddydd. Mae’r prosiect wedi ei anelu i gyfoethogi ymhellach y drafodaeth ar gelf gyfoes.

Am 1 o’r gloch heddiw, roedd Ynyr Williams, Cynhyrchydd yr opera sebon yn cynnal trafodaeth ar y celf hyn a’u arwyddocâd. Esboniodd fod pob darn o gelf angen strwythur, a dyma’n union sydd i’w weld fan hyn. Mae blwyddyn o benodau Pobol y Cwm yn cael eu rhannu i mewn i flociau gwahanol, a gweler yn y lluniau uchod, strwythur storïo Bloc 5. Mae’r llun ar y chwith yn cynnwys pa actorion sydd ar gael, a’r llun ar y dde yn cynnwys argaeledd yr actorion hynny yn y gwahanol safleoedd saethu. Wrth i Ynyr Williams esbonio y broses fathemategol gymhleth sydd angen ei gyflawni cyn mynd ati i storïo, roedd yn drawiadol y cyfyngiadau sydd ar greadigrwydd yr awdur. Nid oes rhwydd hynt i’r awdur benderfynu ar hap pa gymeriadau y mae am ysgrifennu ar eu cyfer. Bydd chwech awdur fel arfer yn cael eu penodi i weithio ar bob bloc, a dros gyfnod o bythefnos, byddent gydag Annes Wyn, y Cynhyrchydd Stori, yn cychwyn ar y broses o greu streaon sydd wedi eu hoelio ar yr argaeledd uchod.

Cip olwg yn unig ar y broses yw’r ysgrif hwn. Os oes gennych ddiddordeb pellach yn strwythur storïo Pobol y Cwm, bydd Ynyr Williams yn cynnal sesiwn trafod arall ym mhabell ‘Y Lle Celf’ am 1 o’r gloch yfory. 

 

Share this article

Comment on this article