Ymwelydd Y Dydd: Alan Thomas

7 August 2014

Wrth i mi gerdded o amgylch y maes bore ‘ma ar ôl mynychu cyfarfod y wasg ddyddiol, wnes i sylwi ar feic modur wrth stondin ar bwys y pafiliwn – stondin y Gwasanaeth tân ac achub Llanelli.

Cwrddais i âg Alan Thomas, dyn tân ac achub o Lanelli. Tyfodd Alan i fyny yn Llanelli a fu magwyd ei deulu yn Llanelli hefyd, mae’n dad i ddau blentyn Chloe (19) a Jacob (14) – ‘a wife and two monsters’ fel mae’n galw hwy.

“Dwi’n joio’r Eisteddfod hyd yn hyn, rydym yma trwy’r wythnos ond heb law am fynd i’r Pentref Bwyd am ginio dw i heb weld lot!” Dywed Alan os oedd modd iddo wneud unrhyw beth hudol yn y byd fe fydd e’n ceisio newid y ffordd mae pobl yn feddwl i fod yn fwy positif. “Creision caws a winwns dros halen a finegr unrhyw ddydd, a the dros goffi heb os!”

Mewn tair ffordd, disgrifiodd Alan y pethau gorau am weithio fel dyn tân: “Helpu pobl, gwaith tîm ac mae’n sbort!”

Dechreuodd Alan weithio yn y gwasanaeth tân ac achub Llanelli fel bachgen ifanc o ddeunaw oed. Bellach mae wedi bod yn gweithio yn y swydd am 28 mlynedd – “Roedd yn gyd-ddigwyddiad hollol ryfedd a dyngedfennol! I fod yn hollol onest, mi wnaeth swydd yn y ganolfan waith cael ei hysbysebu’n anghywir ar gyfer swydd yn y stiwdios HTV yng Nghaerfyrddin. Pryd wnes i ffonio er mwyn ofyn am y peth, atebodd rhywun ‘gwasanaeth tân?!’ ac mae’r gweddill yn hanes!”

Mae Alan yn annog y cyhoedd i ddod ac ymweld â stondin y gwasanaeth tân ac i roi eu henwau i lawr am archwiliad diogelwch yn y cartref am ddim a larymau mwg – i gyd am ddim! Hefyd, ces i’r cyfle gwych i eistedd ar feic modur am yr ail dro yn fy mywyd! Mae gen i deimlad fod bod yn feiciwr yn fy siwtio!

IMG_0201 IMG_0195 IMG_0198

Article tags

Share this article

Comment on this article